Cartref

Rhowch wybod inni am goedlan neu goeden sydd o dan fygythiad

Lle mae’r bygythiadau?

Cyfeirlyfr i ymgyrchwyr

Pwy sy’n cymryd rhan?

Helpwch ni gyda’r wefan hon

 

Mae Coedlannau a choed o dan fygythiad yn fenter gan Coed Cadw (the Woodland Trust) a’r Fforwm Coed Hynafol

 

 

Y Drefn Gynllunio yng Nghymru

(A fyddech cystal â nodi fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi yn awr yn diwygio’r drefn gynllunio yng Nghymru. Fodd bynnag, fe fydd y manylion hyn yn dal yn berthnasol nes bod y dulliau gweithredu newydd yn dod i rym.)

Caniatâd cynllunio a pholisi cynllunio

Unwaith y bydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi, mae hynny’n dileu’r angen am drwydded gwympo, ac hefyd yn dileu’r diogelwch a roddir gan orchmynion gwarchod coed, neu unrhyw ddynodiadau eraill o ran hynny. Mae’r drefn gynllunio’n bwysig, ac mae’n hanfodol i ddeall sut mae’n gweithio. Mae’r rhan fwyaf o’r bygythiadau i goetir y mae Coed Cadw (the Woodland Trust) yn deilio gyda nhw yn ymwneud â cheisiadau cynllunio am ddatblygiadau sy’n effeithio ar goedlannau hynafol, parcdir neu goed hynafol unigol.

Mae’r drefn gynllunio yn gweithio law yn llaw gyda’r drefn trwyddedau cwympo. Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer cwympo coed neu glirio tir, ynddo eu hunain. Yr unig ffordd i awdurdod cynllunio atal hynny rhag digwydd fyddai trwy gyflwyno gorchymyn gwarchod coed brys. Fodd bynnag, mae trwydded cwympo yn angenrheidiol weithiau er mwyn cwympo coed.

Mae yna ddwy ochr i’r drefn gynllunio: polisi cynllunio a rheolaeth ddatblygu. 
  • Mae Polisi cynllunio yn cael ei gynhyrchu gan lywodraeth ganolog, ranbarthol a lleol, i lywio datblygiadau yn y dyfodol mewn ffordd drefnus a chydlynol.
     
  • Mae awdurdodau lleol yn deilio gyda cheisiadau cynllunio unigol, ac mae’n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau o fewn fframwaith a osodir allan gan bolisi cynllunio.

Mae datblygiad caniataëdig yn cynnwys rhai mathau o ddatblygiad sydd ddim angen cais cynllunio o dan reolaeth datblygiad.

Fe all rheolaeth datblygiad dros fineralau, gwastraff a thrafnidiaeth cael ei weithredu gan awdurdod cynllunio gwahanol o fathau eraill o ddatblygiad, neu fe all gael ei weithredu gan yr un gorff, yn achos awdurdodau unigol (gweler Ceisiadau Mineralau)

Mae “Datblygiad” yn cynnwys gwaith adeiladu, a newidiadau yn nefnydd adeiladau neu dir.

Cyfarwyddyd polisi cynllunio cenedlaethol

Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn darparu egwyddorion sylfaenol cynllunio yng Nghymru. Fe ddylai cynlluniau datblygu lleol adlewyrchu’r polisïau a amlinellir yn y ddogfen hon. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn darparu’r diogelwch cryfaf i goetir hynafol mewn unrhyw wlad o fewn y DU, gan ddatgan: “Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn gynefinoedd na ellir eu hadfer sy’n werthfawr iawn am eu bioamrywiaeth a dylid eu diogelu rhag datblygiad a fyddai’n achosi difrod sylweddol.” Mae’n datgan hefyd: “Fe ddylai awdurdodau cynllunio lleol geisio diogelu coed, grwpiau o goed ac ardaloedd o goetir lle mae ganddyn nhw werth treftadaeth, neu lle maen nhw’n cyfrannu at gymeriad neu fwynderau ardal arbennig” (PCC paragraff 5.2.8).

Cynlluniau datblygu lleol

Mae yna 22 sir unedol a thri awdurdod parc cenedlaethol sydd i fod wedi paratoi cynlluniau datblygu unedol (CDUau) ar gyfer eu hardaloedd. Mae’r rhain yn darparu fframwaith y dylid ystyried ceisiadau unigol ynddo fe.

Beth allwch chi wneud

Fel arfer, cynhyrchir CDUau mewn ffurf drafft ymgynghorol, (gydag adroddiad pynciau cyn hwn, neu yn lle hwn yn aml iawn) cyn cyhoeddi ddrafft ffurfiol i’w archwilio. Ar ôl cyfnod ymgynghorol, fe fydd yr awdurdod cynllunio yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed, ac fe all gyhoeddi newidiadau arfaethedig er mwyn ceisio cwrdd ag o leiaf rhai o’r gwrthwynebiadau, ac wedyn cyhoeddi drafftiau canlynol (ail ddrafftiau i’w harchwilio).

Os ydych chi’n pryderi am ddatblygiad arbennig, rhaid darganfod yn gyntaf pa gam mae’r CDU wedi cyrraedd. Os oes modd eto i roi sylwadau i fewn ynglŷn â’r datblygiad, gorau po gyntaf. Fe allwch fwydo sylwadau i fewn fel rhan o’r broses ymgynghorol ffurfiol a osodwyd allan gan y cyngor.

Rhaid i chi ddarganfod beth yn union yw’r cynigion datblygu a amlinellir yn y cynllun. Fe fydd hi’n ddefnyddiol hefyd i ddarganfod hefyd pa ddiogelwch a roddir i goetir hynafol o dan y cynllun datblygu, gan sicrhau ei fod yn rhoi diogelwch priodol, yn unol â PhCC. Os yw’r datblygiad yn groes i’r cynllun datblygu, neu i bolisïau sy’n rhan o’r cynllun, fe fydd hyn yn cryfhau eich ymgyrch.

Os ydy’r datblygiad wedi cael ei gymeradwyo yn y cynllun blaenorol, ac os ydy’r tir wedi cael ei ddynodi ar gyfer y defnydd hwnnw, fe fydd rhaid i chi gymryd rhan yn y “drefn rheoli datblygiad”, trwy wrthwynebu ceisiadau cynllunio arbennig (gweler Caniatâd cynllunio am ragor o fanylion).

Fe ellwch roi sylwadau ar gynlluniau datblygu hyd yn oed os nad ydych yn pryderi am ddatblygiad cynllunio arbennig. Trwy sicrhau fod y cynllun yn cynnwys y polisïau diogelwch posibl ar gyfer coetir a choed, fe ellwch wneud pethau’n anos i ddatblygiadau allai arwain at ddinistrio coetir. Wrth roi sylwadau ar gynlluniau datblygu, fe allwch gyfeirio at bolisi cynllunio cenedlaethol.

Eisiau darganfod mwy?

  • Fe ddylai fod yna fwy o wybodaeth am y CDU ar wefan eich cyngor lleol, yn swyddfa gynllunio’r cyngor, neu yn eich llyfrgell leol.
     
  • Mae'r dogfen Cynlluniau Datblygu Unedol Arweiniad i'r Gweithdrefnau ar gael o dudalen CDU gwefan y Cynulliad Cymreig, ynghyd â rhagor o wybodaeth ddefnyddiol am CDUau yng Nghymru.

Darnau perthnasol eraill


Ymwadiad. Mae’r wybodaeth hon wedi’i seilio ar brofiad Coed Cadw (the Woodland Trust) a’r Fforwm Coed Hynafol wrth drin achosion yn ymwneud â choetir a choed o dan fygythiad. Bwriad y wefan hon yw ehangu dealltwriaeth o’r broses, ond nid yw Coed Cadw na’r Fforwm Coed Hynafol yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau neu fylchau neu am unrhyw golled sy’n deillio o ddefnydd y wybodaeth a gynhwysir yn y wefan hon i bersonau eraill. Os ydy unigolyn yn gweithredu y tu allan i’w wybodaeth neu’i alluoedd, fe ddylai bob amser chwilio am gyngor person proffesiynol gyda chymhwyster priodol, fel arolygwr neu gyfreithiwr, yn dibynnu ar yr achos. Ni ddylid ddibynnu yn llwyr ar unrhyw wybodaeth ar y wefan hon fel datganiad ffaith.

 

Cyfeirlyfr i ymgyrchwyr

Coedlannau a choed hynafol

Dynodiadau amddiffynnol

Rheoliadau amddiffynnol eraill

Y drefn gynllunio

Ymgyrchu

Y cyfeirlyfr yn llawn