|
|
Ar draws y DU mae coedlannau a choed hynafol o dan fygythiad |
 |
|
Ar y wefan hon fe allwch:
|
|
 |
Mae coedlannau hynafol wedi bodoli ers o leiaf 400 o
flynyddoedd, ac mae rhai ohonyn nhw’n darparu’r ddolen gyswllt olaf
sydd gennym gyda’r goedwig wyllt oedd yn gorchuddio’r DU ar oedd Oes
yr Iâ ddiwethaf 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae’n anodd credu fod rhan mor bwysig o’n treftadaeth ecolegol a
diwylliannol, sydd bellach yn gorchuddio dim ond dau y cant o’r
tirwedd, yn dal o dan fygythiad, ond mae hyn yn wir. |
|
Mae coed hynafol yn frith
o hanes y tirwedd, ac maen nhw’n
gysylltiedig yn aml iawn gyda bywydau unigolion a chymunedau’r
gorffennol. Maen nhw hefyd yn gynefin i amrywiaeth unigryw o fywyd
gwyllt.
Amcangyfrifir fod tua 80 y cant o goed hynafol gogledd Ewrop ym
Mhrydain, felly mae yna gyfrifoldeb mawr arnom ni i’w gwarchod. |
|
|
Newyddion diweddaraf
• Helpwch i achub coedlan Pencoedtre ger y Barri – darllenwch
y
datganiad i’w wasg ac
is-lwythwch lythyr i’w olygu a’i ddanfon. Unwaith eich bod chi
wedi gwneud hyn, a wnewch chi
ddanfon copi atom ni hefyd
Cliciwch
yma am gopi (pdf) o’r llawlyfr Cymraeg “A ydy eich coedlan leol
o dan fygythiad”. Mae hyn yn cynnig arolwg defnyddiol o sut y
gellwch weithredu i amddiffyn coetir a choed yn gyfagos i chi. Os
ydych chi’n dymuno astudio’r pwnc mewn dyfnder, fodd bynnag, mae’n
well i chi ddarllen y cyfeirlyfr i
ymgyrchwyr.
Croeso i wefan Coetir o dan fygythiad. Datblygwyd y wefan hon i
helpu’r rhai hynny sydd yn gweithio i amddiffyn coedlannau a choed
hynafol sydd o dan fygythiad trwy gydol y DU. Mae hi wedi cael ei
datblygu heb grantiau cyhoeddus, ac yn anffodus nid oedd modd gwneud
y wefan i gyd yn gwbl ddwyieithog. Fodd bynnag, gellir darllen y
darn sydd yn sôn am Gymru yn benodol, yn y cyfeirlyfr ar gyfer
ymgyrchwyr, yn Gymraeg neu yn Saesneg.
|
|
|
|
|



|
|