Gorffennol a phresennol
Coed Gwent
Gweddill coedwig enfawr a ymestynnai
o’r afon Wysg yn Ne Cymru i Ddyffryn Gwy yw Coed Gwent a hi yw’r safle
coedwig hynafol blanedig fwyaf yng Nghymru a’r nawfed safle fwyaf yn y
DU. Y mae gan y safle sydd yn sefyll ychydig filltiroedd i’r
Gogledd-Ddwyrain o Gasnewydd hanes hir a pharchus - cyfeirir ato mewn
testunau o’r Oesoedd Tywyll ac yr oedd yn goedwig hela frenhinol ar
gyfer castell Casgwent ar un adeg.
Coedwig hynafol yw’r cynefin bywyd
gwyllt mwyaf toreithiog yn y DU ac y mae cyfystyr i ni a choedwig law. Y
mae Coed Gwent a’r cyffiniau yn gynefin i filoedd o rywogaethau gwyllt.
Y mae tros 23 math o pili pala; 75 math o adar, gan gynnwys turtur,
troellwr mawr a gwybedwr ysmotiog; pathewod; dyfrgwn; ystlumod megis yr
ystlum pedol lleiaf; ynghyd a phlanhigion coed hynafol megis y cennin
gwyllt, suran y coed a gwlydd melyn Mair wedi ymgartrefu yn y coed.
Plannwyd y coniffer cyntaf yng Nghoed
Gwent ym 1880 ac yr oedd y rhan fwyaf o’r coed cynhenid wedi eu cwympo
erbyn diwedd yr ail Ryfel Byd. Bu’n ffynhonnell werthfawr o goed yn y
ddau Ryfel Byd. Pan ail-blannwyd y goedwig ym 1950au a’r 1960au
disodlwyd gogoniant y coed dail llydan gan goniffer estron a ddifrodi
llawer o’r cynhefin coedwigol oedd ar ôl.
Sut bynnag, nid aeth y cyfan i
ddifancoll. Darfu bywyd gwyllt a phlanhigion coedwig hynafol ddal eu tir
a pharhau i fyw yn y tywyllwch anghynefinol tan y canopi coniffer.
Cwblhawyd y pryniant o bron i 352
hectar (oddeutu 900 erw) o Goed Gwent gan Coed Cadw yn 2006 ac yn awr y
mae cyfle ar gael i adfer y gogoniant a fu i’r goedlan hynafol hon.
|