|

May 2002
Contents
Coed a’r Cynulliad Cymreig – Yn eich cadw chi mewn cysylltiad gyda choetir brodorol Cymru
Croeso i Goed a’r Cynulliad, cylchlythyr arbennig i Aelodau’r Cynulliad a gynhyrchir gan Goed Cadw (the Woodland Trust). Fel prif elusen gwarchod Coetir Cymru, rydym yn awyddus i chwarae rhan yn helpu i weithredu rhan o’r strategaeth Coetiroedd i Gymru, ac i gydweithio gydag aelodau’r Cynulliad, ac mae’r cylchlythyr hwn yn gyfle i wneud hynny. Fe gofiwch chi, efallai, y lansiom ni ein Sialensau Coetir i’r Cynulliad fis Gorffennaf diwethaf1. Mae’r cylchlythyr hwn yn rhoi braslun o’n gwaith ers hynny. Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau ar unrhyw un o’r erthyglau, neu os hoffech ragor o
wybodaeth.

Aelodau’r Cynulliad yn gwneud gwaith budr dros yr
amgylchedd!
Roedd Coed Cadw wrth ei fodd fod cymaint ag 11 o Aelodau’r Cynulliad wedi dod i blannu coed yn Llwyn y Cynulliad yn yr estyniad i Casehill Wood, coedlan sy’n eiddo i Goed Cadw ger Dinas Powys, achlysur a drefnom ni ar y cyd â’r Comisiwn Coedwigaeth a’r BTCV. Fel rhai o’r colofnwyr o’r papurau newydd, roeddem yn synnu gan barodrwydd pawb oedd yn bresennol i ymgymryd â gwaith caled! Ond, mewn gwirionedd, roeddem yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth, ac rydym yn teimlo fod yr achlysur wedi danfon y neges gywir allan yngly^n ag ymrwymiad y Cynulliad tuag at ddatblygiad cynaladwy a phwysigrwydd y Strategaeth Coetiroedd i
Gymru.

Hen bryd inni droi drosodd deilen newydd yng nghefn gwlad
Mae’n amlwg fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un trychinebus i lawer o bobl yng nghefn gwlad Cymru, amaethwyr yn arbennig, ond hefyd y rhai sy’n gweithio ym meysydd twristiaeth a chontractio. Mae Coed Cadw yn cefnogi’r weledigaeth a amlinellir yn y ddogfen Ffermio i’r Dyfodol, ar gyfer amaethyddiaeth gynaladwy sydd yn fwy hyfyw yn economaidd ond sydd hefyd yn cydnabod yr angen i warchod a gwella yr amgylchedd. Rydym yn credu hefyd fod y clwyf wedi dysgu un wers bwysig iawn inni o leiaf, sef bod yr amrediad o ddiddordebau sydd yn llwyr ddibynnol ar gefn gwlad yn ehangach nag yr oedd llawer yn sylweddoli.
Fis Rhagfyr y llynedd fe gyhoeddodd Coed Cadw ddogfen drafod bwysig, Turning over a new leaf in the countryside2, sef ein cyfraniad ni at y ddadl am ddyfodol cefn gwlad, yn sgîl clwyf y traed a’r genau. Mae’r ddogfen yn awgrymu fod coetir brodorol, mewn llawer ystyr, yn fodd enghreifftiol o ddefnyddio tir i hybu datblygiad cynaladwy; mae’n cynhyrchu cynhaeaf adnewyddol cynaladwy, mae’n gallu cynnig manteision cymdeithasol yn gysylltiedig yn uniongyrchol â chymunedau, yn ogystal â hybu iechyd dynol trwy gynnig cyfleoedd ar gyfer hamdden ac ysbrydolaeth yr enaid. Mae coetir yn chwarae rôl bwysig o ran cynal y pridd, awyr iach ac ansawdd dwr, os ydy’n cael ei reoli’n gynaladwy. Coetir hynafol lled-naturiol yw’r cynefin cyfoethocaf i fywyd gwyllt sydd gennym yng Nghymru.
Os ydym ni’n mynd i warchod ein coetir hynafol, mae rhaid ei ymestyn. Mae’r rhan fwyaf o’n coedlannau hynafol yn rhy fach ac yn rhy wasgaredig i gynnal yr amrediad o gynefinoedd a rhywogaethau sy’n ddibynnol arnyn nhw. Nid ydym yn argymell mwy o’r math o’r goedwigaeth ar blanhigfeydd a wnaeth gymaint i anharddu ucheldir Cymru yn y ganrif ddiwethaf, ond creu coetir brasddeiliog a chymysg, wedi’i ddylunio’n dda, gan ymestyn allan o goedlannau presennol, a chan wella mwynderau a darparu manteision i’r gymuned ac i’r economi.
Mae’n amlwg fod hyn yn bwnc pwysig i Gymru ac i’r Cynulliad. Trwy weithredu rheolau’r Polisi Amaethyddol Cyffredinol mewn ffordd wahanol, a defnyddio’r hyn a adwaenir fel “modiwleiddio” i sianelu adnoddau i mewn i gynllun amaeth-amgylcheddol “eang ond bas” sydd ar agor i bob ffarmwr, fe all y Cynulliad hybu manteision amgylcheddol o bwys, a hynny heb wario llawer mwy o arian. Yn yr haenau uwch o’r cynllun, a fyddai ar agor i bob ffarmwr fyddai’n dymuno cymryd rhan, fe allai hyn gynnwys opsiwn i ledaedu coetir brodorol. Mae Coed Cadw yn credu y gallai rhagor o goetir gynnig manteision sylweddol o ran bio-amrywiaeth, ansawdd bywyd, iechyd cyhoeddus, rheoli dwr a chefnogi twristiaeth a diwydiannau coetir – yn fyr, o ran datblygiad cynaladwy. Mae rhaid asesu’r cyfleoedd sy’n bodoli i goetir newydd ar ffermydd greu bio-danwydd . Mae’n amlwg fod manylion unrhyw ddiwygiad yn hollbwysig. Er enghraifft, mae Coed Cadw yn credu fod yn rhaid inni dargedu ymestyniad coetir i’r ardaloedd hynny yng Nghymru lle mae yna glystyrau o goetir hynafol, os ydym ni’n o blaid gwarchod bioamrywiaeth ein coetiroedd, gan mai yn yr ardaloedd hyn y mae gan fywyd gwyllt y siawns gorau i oroesi ac addasu yn wyneb newid yr hinsawdd 3
- click
here .
Mae’r gan y syniad hwn lawer i’w gynnig i’r gymuned amaethyddol. Nid yn unig y byddai modiwleiddio yn dod â rhagor o arian i mewn i gefnogaeth amaethyddol, ond fe all creu rhywfaint o goetir newydd gydfynd yn effeithiol o fewn strwythur y fferm
deuluol.

Un ffordd ymlaen – Prosiect Gofal Gwledig Pontbren
Mae gan goed Cadw ddiddordeb ym Mhrosiect Gofal Gwledig Pontbren. Grw^p o ddeg fferm gyfagos ym Maldwyn yw hwn, sydd yn cydweithio er mwyn gwella eu busnesau a’r amgylchedd lleol. Mae’r ffermwyr yn cynllunio cynyddu maint y coetir ar eu ffermydd o ryw 1.5 y cant i 10-15 y cant, sef 150HA mewn arwynebedd cyfan o 1000HA. Nid yn unig y gallai’r prosiect roi hwb i fyd natur a’r tirlun, a helpu i atal llifogydd, fe ddylai gynhyrchu cyflenwad cynaladwy o asglodion coed hefyd, a allai arbed dros £50,000 bob blwyddyn i’r ffermwyr, o ran prynu gwellt. Tra bod y prosiect hwn yn un newydd, hyd yn hyn, a thra bod yna lawer i’w ddysgu eto, mae’n dangos fod creu coetir brodorol yn gallu mynd law yn llaw gydag amaethyddiaeth broffidiol, gan ddangos sut y gallai coetir gyfrannu tuag at ddefnyddio tir mewn dull mwy cynaladwy yn y dyfodol.
Mae’r prosiect wedi bod yn bosibl oherwydd bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno i ddigolledi’r ffermwyr am eu colledion o ran taliadau arwynebedd y byddant yn eu colli am iddynt greu coetir newydd, a hynny oherwydd mai prosiect unigryw ac arloesol yw hwn. Cynllun unigryw yw hwn, yn sicr, ond fe fyddai Coed Cadw yn hoffi gweld opsiwn tebyg yn cael ei gynnig i bob ffermwr yng Nghymru, trwy haenau uwch cynllun amaeth-amgylcheddol newydd “eang a bas”, a ariannir yn rhannol trwy fodiwleiddio taliadau CAP. Fel hynny, fe allem ni i gyd fanteisio o amgylchedd mwy deniadol, mwy bioamrywiol a mwy
cynaladwy.

Fe all creu coetir brasddeiliog ARBED
arian!
IDoes dim cyfrinach nad yw tyfu coed conwydd wedi bod yn broffidiol iawn dros y blynyddoedd. Mae llai o bobl yn sylweddoli fod y Comisiwn Coedwigaeth yn gwario £2.2 miliwn bob blwyddyn4 (sef arian y Cynulliad mewn gwirionedd) yn ail-blannu coed ar ôl clir-dorri, ar 1,400 o hectarau o dir. Mae 98 y can o’r coed hyn yn goed conwydd5.
Mae Coed Cadw yn credu fod yna ddadl gref, ar gyfer rhai o’r tir hwn o leiaf, dros beidio â gwario’r arian hwn o gwbl, ond gadael i goed aildyfu’n naturiol, oherwydd fe allai hyn wella bioamrywiaeth a harddwch y safleoedd hyn. Ar lawer o safleoedd, fe fyddai hyn yn arwain at goetir cymysg, gyda choed bedw yn bennaf. Fe fyddai yna fanteision mawr i bolisi fel hwn, yn amgylcheddol ac yn ariannol, ac mae Coed Cadw yn credu y dylid archwilio’r
opsiwn yn llawn, o leiaf, a sefydlu prosiectau arbrofol.
Yn ystod dadl lawn y Cynulliad am strategaeth Coetiroedd i Gymru y llynedd, fe gododd Cynog Dafis y pwnc yma, gan awgrymu y dylid fod yna fwriant er erbyn ail-blannu coed conwydd ar dir sy’n eiddo i’r Cynulliad, onibai bod yna reswm economaidd cryf dros wneud hynny. Fe gyfeiriodd Carwyn Jones y syniad i Fforwm Coetir y Cynulliad, sydd newydd ei sefydlu, ac mae’n debyg y caiff y pwnc ei drafod ar Weithdy Rheolaeth Coetir neu Amgylcheddol y Fforwm yn y misoedd nesaf. Fe wnawn ni rhoi gwybod i ACau sut y mae’r stori hon yn datblygu – stori, gyda llaw, yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i gyfrifon mewnol Menter Coedwigaeth gael eu datganoli i’r gwahanol
wledydd.

Gwyn ein byd, ond am ba
hyd?
Mae Coed Cadw yn gweld coetir hynafol fel rhan cwbl hanfodol o’n treftadaeth naturiol. Hwn yw’r cynefin cyfoethocaf sydd gennym yng Nghymru, o ran nifer y rhywogaethau prin ac o dan fygythiad sy’n byw ynddo, ond mae coetir hynafol yn gorchuddio llai na 2 y cant o arwynebedd Cymru. Rhwng 1930 a 1980, collwyd tua hanner o goetir hynafol Cymru. Nid oes gan dua 80 y cant o goetir Cymru statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac felly nid oes ganddo unrhyw amddiffyniad o dan ddeddfwriaeth bywyd gwyllt.
Felly, roedd Coed Cadw wrth ei fodd fod y drafft terfynol o Bolisi Cynllunio Cymru, sydd yn dod i rym ganol mis Ebrill 2002, yn cynnwys, am y tro cyntaf erioed, gyfarwyddyd clir i Awdurdodau Lleol fod coetir hynafol yn werthfawr eithriadol, ac y dylid ei amddiffyn rhag datblygiadau a fyddai yn eu niweidio. Trwy wneud y newid hwn, mae’r Cynulliad wedi rhoi Cymru o flaen Lloegr o ran gwarchod coetir hynafol, ac rydym yn gobeithio y bydd Lloegr yn dilyn esiampl Cymru!
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r newid pwysig hwn ymhlith cynllunwyr a’r cyhoedd, mae Iolo Williams, “Dyn adar” y gyfres diweddar ar y BBC, yn barod i ysgrifennu at bob Awdurdod Cynllunio yng Nghymru – 25 ohonynt – i groesawu’r newid, ac i’w hannog i ddilyn llythyren ac
ysbryd y cyfarwyddyd newydd.
Mae Coed Cadw wrth ei fodd gyda phapur diweddar y Cynulliad Cymreig ar y system cynllunio - “Cyflawni dros Gymru”. Ar adeg pan fo Gweinidogion Seisnig yn cynnig newidiadau fyddai’n glastwreiddio’r System Cynllunio Gwlad a Thref fel rydym yn ei adnabod, mae’n dda gweld y Cynulliad Cymreig yn cymryd agwedd mwy cytbwys, sy’n rhoi pwyslais ar yr angen i wneud penderfyniadau’n fwy cyflym, ond sy’n osgoi peryglu integriti’r System
Cynllunio.

Adfer coetir hynafol: ras yn erbyn y cloc
Mae coetir hynafol sy’n cael i ddinistrio er mwyn gwneud lle i dai a ffyrdd wedi cael ei golli am byth, ond nid yw hyn yn wir am y 59,000 o hectarau o goetir hynafol yng Nghymru, sef maint arwynebedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, lle plannwyd coed an-frodorol, coed conwydd yn bennaf, yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae conwydd yn tueddi i dagu llawr y goedlan o dan eu gorchudd dwys, gan ladd y blodau gwyllt sy’n gysylltiedig â choetir hynafol. Ond mae’n bosibl adfer safleoedd o goetir hynafol a blannwyd gyda chonwydd, os gwnawn ni weithredu mewn pryd, hwyrach o fewn y 10-20 mlynedd nesaf.
Dyma’n union beth y mae Coed Cadw yn ei wneud ar saith safle sydd yn ein gofal, ar hyd a lled Cymru, a hynny gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd o dan Amcan 1. Mae’r prosiect yn cynnig manteision pwysig, o ran creu gwaith i gontractwyr a melinau, gwella mynediad i’r cyhoedd, gan gynnwys, lle mae hyn yn bosibl, darparu mynediad i’r rhai llai abl. Fe fydd y cynllun yn dod â 287 o hectarau o goetir o dan reolaeth gynaladwy, yn darparu 3.5 km o lwybrau cerdded yng nghefn gwlad, yn adnewyddu 300m o berthi neu gloddiau, yn ailgodi 200 metr o waliau cerrig ac yn rhoi gwaith i gontractwyr, fydd yn cyfateb12 swydd lawn amser. Mae Coed Cadw yn falch o fedru cydweithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol i dynnu i lawr grantiau Ewropeaidd fydd yn creu cyflogaeth yn yr economi lleol yn ogystal â gwella’r amgylcheddol lleol a chynnal diwydiant twristiaeth cynaladwy. Gobeithio y bydd hyn yn sbarduno perchenogion coedlannau eraill i adfer rhan o’u coedwigoedd hynafol nhw sydd wedi cael eu plannu gyda chonwydd yn y
gorffennol.

Sue Essex i annerch cyfarfod Coed Cadw yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru
Amddiffyn ac adfer coetir hynafol fydd y ddau brif bwnc mewn cyfarfod arbennig y mae Coed Cadw yn ei drefnu yn Sioe Frenhinol Cymru am 11.30am Ddydd Mawrth y 23 Gorffennaf – dyddiad i’w nodi yn eich dyddiadur! Mae Sue Essex wedi cytuno i siarad, a gobeithio y bydd nifer o Aelodau’r Cynulliad yn ymuno â ni a chriw o gynrychiolwyr o fudiadau amgylcheddol gwirfoddol i wrando ar yr hyn fydd ganddi hi a’r siaradwyr eraill i’w ddweud. Mae Coed Cadw yn bwriadu defnyddio’r cyfarfod i gyhoeddi’n dogfen gweithredu, sy’n amlinelli ein blaenoriaethau ac ein hamcanion ni yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, fydd yn cyfrannu at elfennau o fewn y Strategaeth Coetiroedd i Gymru gan y
Cynulliad.

Cymru a’r Byd
Mae’n amlwg fod y Cynulliad yn gallu cael effaith ar goedwigoedd y byd mewn sawl ffordd. Un maes lle gall wneud gwahaniaeth fawr, er gwaeth neu er gwell, yw maes pwrcasu pren. Hwn oedd prif bwnc gweithdy pwysig yng Nghynhadledd Cymru a’r Byd, a drefnodd y Cynulliad ar y 17 Ebrill ar y cyd ag OXFAM a’r WWF, fel rhan o’r paratoadau ar gyfer Uwchgynhadledd y Byd dros Ddablygiad Cynaladwy yn Johannesburg.
Y ffaith amdani yw, ers 1950, mae 20 y cant o goedwigoedd hynafol y byd wedi cael eu dinistrio. Mae’r dinistr hwn yn parhau ar raddfa 10 miliwn o hectarau bob blwyddyn, ac mae llawer o hyn yn digwydd er mwyn darparu pren ar gyfer y farchnad ryngwladol. Mae llawer o’r cwympo yn digwydd anghyfreithlon. Yr eironi yw bod modd cynhyrchu pren mewn ffordd gynaladwy mewn coedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n dda, gan blannu coed newydd i gymryd lle’r rhai a gwympwyd, gan ddarparu bywoliaeth gynaladwy ar gyfer y bobl leol.
O amgylch y byd, mae’r rhai sy’n pwrcasu pren yn gallu penderfynu sut y mae eu harian yn cael ei ddefnyddio, i gynnal cymunedau lleol a gwarchod y coedwigoedd, neu i’w dinistrio. Y ffordd ymarferol iddynt wneud hyn yw trwy fynnu pwrcasu pren o ffynonellau sydd wedi cael eu hardystio’n annibynnol, gan gyrff fel y Cyngor Stiwardiaeth Goedwigaeth (FSC). Mudiad rhyngwladol yw FSC, sydd yn cynnwys diddordebau busnes yn ogystal â mudiadau gwirfoddol. Mae ei swyddfa Brydeinig yn Llanidloes.
Mae Carwyn Jones wedi tanlinellu’r manteision y mae ardystio coetir yn eu cynnig i’r rhai sy’n cynhyrchu pren. Mae Coed Cadw’n gobeithio’n fawr y bydd y gweithdy hwn yn helpu’u Cynulliad i gymryd cam pwysig arall ymlaen, sef mabwysiadu polisi cadarn o blaid pwrcasu defnyddiau pren o ffynonellau ardystiedig yn unig, ac i ddefnyddio ei ddylanwad i annog Awdurdodau Lleol a Chyrff a Noddwyd gan y Cynulliad i wneud yr un
peth.

Y bygythiad unigol mwyaf i goetir hynafol – newid yr hinsawdd
Un o’r pynciau eraill a drafodir yng Nghynhadledd Cymru a’r Byd, ac yn Johannesburg, yw newidiadau yn yr hinsawdd a achosir gan ddynolryw. Mae Coed Cadw yn cydnabod fod effeithiau newid yr hinsawdd (sydd wedi dechrau yn barod) yn debyg i fod mor eang fel mai nhw yw’r bygythiad unigol mwyaf i goetir hynafol a brodorol Cymru.
Yn amlwg, un o’r problemallweddol y mae llywodraethau’r byd yn ei wynebu o ran lleihau allyriannau nwyon ty^ gwydr, yw’r anhawster yn gwneud y cysylltiad rhwng gweithredoedd unigol a phroblem newid yr hinsawdd sy’n effeithio ar y byd i gyd. Felly, mae’n gwbl hanfodol i gydweithio gyda’r cyhoedd os ydy Cymru yn mynd i chwarae rôl briodol o ran deilio gyda phroblem newid yr hinsawdd6. Rydym yn credu fod gan gynlluniau fel prosiect ffenoleg Coed Cadw, mewn cydweithrediad y Ganolfan dros Ecoleg a Hydroleg, lawer i’w gynnig, yn hybu’r egwyddor y dylid “gweithredu’n lleol, a meddwl am y byd i gyd”.

Content
1 Gellir
is-lwytho hwn yn y ddwy iaith o wefan www.coed-cadw.org.uk o dan “Campaigns”. Fe gafodd y ddogfen ei lansio mewn cyfarfod arbennig yn
Nhy Crughywel, gyda Cynog Dafis yn llywyddu.
2 Gellir is-lwytho hon yn electronig o www.woodland-trust.org.uk/policy/index.htm, o dan “publications” ac wedyn “policy publications”
3 Amlinellir y syniadau hyn yn ein dogfen newydd ei chyhoeddi Space for nature: Landscape-scale action for woodland biodiversity. Gellir is-lwytho hon o wefan
www.woodland-trust.org.uk/publications.htm o dan “strategic publications”.
4 Fe gafodd y wybodaeth hon ei rhyddhau gan Carwyn Jones mewn ateb i gwestiwn ar lafar gan Eleanor Burnham ar y 17 Mai 2001
(OAQ 11468)
5 Rhyddhawyd mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Peter Black ar 17 Mai 2001 (OAQ11443)
6 Fel rhan o’r prosiect hwn, mae gwirfoddolwyr wedi cael eu recriwtio i gofnodi digwyddiadau naturiol yn eu milltir sgwâr nhw: coed yn blodeuo, agor egino blodau gwyllt, a’r hyn sy’n aros yn y cof hwyrach, dyfodiad y gog. Mae gan ein cynllun ffenoleg dros 720 o gofnodwyr yng Nghymru ar hyn o bryd, a thros 12,000 ar hyd y DU, sy’n golygu mai hwn yw’r cynllun mwyaf o’i fath yn y byd.
|