Datganiad Safbwynt
Yr Iaith Gymraeg


Coed Cadw 
Coed Cadw (The Woodland Trust) yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n ymwneud â gwarchod coedlannau . Rydym yn berchen ar ac yn rheoli 125 o goedlannau yng Nghymru. Rydym yn gweithio hefyd i atal unrhyw golled pellach o goedwigoedd hynafol, i wella bioamrywiaeth coedlannau, i greu coedwigoedd brodorol newydd ac i gynyddu mwynhad y cyhoedd o goedlannau. Er mwyn gwireddu’r amcanion hyn, mae Coed Cadw yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. 

Yr Iaith Gymraeg
Mae’r Iaith Gymraeg yn ganolog i ddiwylliant Cymru. Tra bod 20% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, mae yna gefnogaeth eang am ddefnyddio’r Gymraeg ym mywyd cyhoeddus. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gorfodi cyrff llywodraethol a chwangos i fabwysiadu a gweithredu Cynlluniau Iaith Cymraeg i sicrhau fod y Saesneg a’r Gymraeg yn cael eu trin ar y sail cydradddeb. Tra nad yw Deddf yr Iaith Gymraeg yn gorfodi cyrff gwirfoddol i wneud hyn, mae hi wedi cynyddu disgwyliadau pobl yng Nghymru. 

Ein safbwynt
Mae Coed Cadw wedi mabwysiadu enw Cymraeg newydd (Coed Cadw) ac mae’n defnyddio’r Gymraeg eisoes ar fyrddau dehongli, mewn gohebiaeth, yn ein cylchgrawn chwe-misol Broadleaf ac mewn nifer o daflenni a datganiadau i’r wasg. Mae’r rhan fwyaf o staff Coed Cadw a leolir yng Nghymru â rhyw wybodaeth o’r iaith. Mae hyn yn amrywio rhwng siarad Cymraeg fel mamiaith, a bod â rhyw wybodaeth sylfaenol ohoni. 

Mae Coed Cadw’n bwriadu defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd addas a chyson. Rydym yn credu y bydd defnyddio’r Gymraeg, ochr yn ochr â’r Saesneg, yn ein galluogi i gysylltu’n fwy effeithiol gyda phobl Cymru, a thrwy hynny i wireddu ein hamcanion elusennol yn well. Gan ein bod yn gweithio trwy gydol y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, nid oes modd inni gynhyrchu pob un ddogfen yn Gymraeg a Saesneg. 

Wrth ymgymryd a’i waith cyhoeddus yng Nghymru, fe fydd Coed Cadw yn ymdrechu i drin y Saesneg a’r Gymraeg ar sail cydraddoldeb. Mae Coed Cadw yn cydnabod:
  • Y gall pobl mynegi eu hun yn well yn eu hiaith ddewisedig.
  • Mae’n arfer da i sicrhau fod aelodau, cefnogwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol yn teimlo fod yna groeso iddynt ddefnyddio eu hiaith ddewisedig wrth gysylltu gyda ni.
  • Yn unol ag egwyddor cydraddoldeb a fynegir yn Neddf yr Iaith Gymraeg, mae gan ein haelodau, cefnogwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol yr hawl i ddewis a ydynt yn dymuno cyfathrebu gyda ni yn Saesneg neu’n Gymraeg.

Ar hyn o bryd, mae nifer staff Coed Cadw a leolir yng Nghymru yn gyfyngedig iawn. Darperir rhai gwasanaethau yng Nghymru gan staff sy’n byw yn Lloegr, neu sy’n gweithio yn y pencadlys ar gyfer y DU yn Grantham yn Swydd Lincoln. Felly, nid oes modd darparu pob gwasanaeth ym mhob ardal yn Gymraeg. Fe fyddwn yn sicrhau, fodd bynnag, fod ein staff yn sensitif i fater yr iaith, ac fe ymdrechwn i ddarparu’r cyfle gorau i bobl ddefnyddio eu dewis iaith. Os nad yw hyn yn bosibl ar unwaith, fe wnawn ni egluro’r opsiynau yn llawn ac yn gwrtais. 

Ein canllawiau ar yr Iaith Gymraeg 
Mae Coed Cadw wedi mabwysiadu cyfres o ganllawiau ar ddefnyddio’r Gymraeg, sydd ar gael i bob aelod o staff perthnasol. Mae’r canllawiau hyn yn darparu cyfarwyddyd manwl ar: defnyddio’n henw Cymraeg (sef Coed Cadw), defnyddio’r Gymraeg mewn taflenni, cyhoeddiadau a byrddau gwybodaeth, mewn gohebiaeth, datganiadau i’r wasg, ar y ffôn ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Mae’r rhan fwyaf o’r pwyntiau manwl yn adlewyrchu arferion presennol o fewn Coed Cadw. 
Mae Coed Cadw’n cydnabod fod y penderfyniad i fabwysiadu’r Datganiad Safbwynt hwn yn gallu helpu’r mudiad i weithredu’n fwy effeithiol yng Nghymru, a hefyd i weithredu ei bolisi cyfle cyfartal.

English version